Mae Pennant Walters yn datblygu cynigion ar gyfer fferm wynt Mynydd y Glyn yn Rhondda Cynon Taf.

27 Hydref 2023 – HYSBYSIAD O SESIYNAU GWRANDAWIAD

Rhoddwyd hysbysiad y bydd Arolygwyr a benodwyd gan Weinidogion Cymru, Siân E Worden BA DipLH MCD MRTPI a Paul Selby BEng (Anrh) MSc MRTPI, yn cynnal Sesiynau Gwrandawiad ar:

Sesiwn gwrandawiad 1: Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023, 10:00am

Sesiwn gwrandawiad 2: Dydd Mercher 22 Tachwedd 2023, 10:00am

Sesiwn gwrandawiad 3: Dydd Iau 23 Tachwedd 2023, 10:00am

Cynhelir gwrandawiadau yn bersonol yn Ystafell y Rhondda yng Ngwesty’r Parc Treftadaeth, Heol Coed Cae, Trehafod CF37 2NP.

Pwrpas y Gwrandawiadau yw i’r Arolygydd glywed tystiolaeth yn ymwneud â: Cymeriad ac Ymddangosiad (Sesiwn Gwrandawiad 1), Ecoleg, pridd a dŵr daear (Sesiwn Gwrandawiad 2) ac amodau cynllunio a mesurau lliniaru (Sesiwn Gwrandawiad 3).

Sylwch, er bod y digwyddiadau yn agored i aelodau’r cyhoedd eu harsylwi, dim ond y rhai a wahoddwyd yn benodol gan yr Arolygydd sydd â’r hawl i gymryd rhan.

 

20 Gorffennaf 2023 – Y DIWEDDARAF AM GYFNOD PENDERFYNU PEDW

Mae’r cyfnod penderfynu wedi’i atal dros dro oherwydd cais ffurfiol o dan Reoliad 15(2) o’r Rheoliadau DAC am ragor o wybodaeth gan yr Ymgeisydd.

Bydd y gwaharddiad yn parhau am 14 wythnos er mwyn caniatáu amser ar gyfer cyflwyno gwybodaeth ychwanegol ac i ganiatáu i PEDW gynnal cyfnod cyhoeddusrwydd ac ymgynghori o 5 wythnos mewn perthynas â’r wybodaeth ychwanegol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais gan yr Ymgeisydd yw 6 Medi a bydd y wybodaeth ychwanegol hon ar gael ar y Porth Gwaith Achos Cynllunio dan gyfeirnod ‘3280378’ ar y ddolen ganlynol: https://planningcasework.service.gov.wales

Mae ymgynghoriad 5 wythnos ychwanegol PEDW yn debygol o gael ei gynnal yn ystod Medi/Hydref 2023, gyda’r union ddyddiadau i’w cadarnhau maes o law. Fodd bynnag, mae PEDW wedi datgan y bydd y cyfnod penderfynu yn ailddechrau ar 18 Hydref.

 


Mai 2023 – Cynigion wedi’u cyflwyno

Yn dilyn yr ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd rhwng 25 Hydref a 9 Rhagfyr 2022 , mae Pennant Walters wedi cyflwyno ei gynigion ar gyfer Fferm Wynt Mynydd y Glyn – a leolir i’r gorllewin o Bontypridd ac i’r dwyrain o Donyrefail o fewn ffin weinyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT).

Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’u dogfennu, eu hystyried a gweithredu arnynt fel y bo’n briodol gan dîm y prosiect, a gwnaed y diwygiadau a ganlyn i’r cynigion, gan gynnwys:

  • lleihau maint y tyrbin o 180m i 155m
  • nodi pwynt mynediad a chyffordd newydd oddi ar y briffordd
  • cael gwared ar byllau benthyg i leihau’r effeithiau posibl ar gynefinoedd presennol
  • symud tyrbin y tu allan i ardal mawn dwfn
  • traciau mynediad diwygiedig i gyfyngu ar effeithiau ar dderbynyddion sensitif
  • cwblhau gwaith ychwanegol mewn perthynas â dad-ddyfrio i ystyried unrhyw effeithiau posibl ar fawn
  • cynnal asesiad ansoddol o effeithiau cymylogrwydd ar ansawdd dŵr
  • cwblhau arolygon Cwtiad Aur ychwanegol
  • diwygio’r ffordd y dangosir data arolwg ystlumod yn unol â sylwadau gan CNC.

Mae’r cais bellach gyda Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) a bydd yn cael ei ystyried gan Arolygydd cyn i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud gan Weinidogion Cymru.

Gall unrhyw un sy’n dymuno gweld y cais wneud hynny drwy chwilio rhif cyfeirnod ‘3280378’  yn https://planningcasework.service.gov.wales/. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 28 Mehefin 2023.


Mae’r wefan hon yn cynnwys arddangosfa rithwir, sy’n rhoi crynodeb o’r cynigion, a drafftiau y gellir eu lawrlwytho o’r holl ddogfennau cynllunio gan gynnwys y Datganiad Cynllunio, y Datganiad Amgylcheddol (ynghyd â Chrynodeb Annhechnegol), a’r Datganiad Dylunio a Mynediad.

Gallwch hefyd weld ffotogyfosodiadau sy’n dangos sut y bydd y fferm wynt arfaethedig yn edrych o olygfannau dethol y cytunwyd arnynt ymlaen llaw â CBSRhCT.

Cynhaliom arddangosfeydd cyhoeddus (gyda’r un wybodaeth â’r arddangosfa rithwir) er mwyn i chi allu trafod y cynigion gydag aelodau o dîm y prosiect:

Arddangosfeydd cyhoeddus 2022
 

Dydd Mawrth 8 Tachwedd

3 – 7pm

Y Ffatri

Stryd Jenkin, Porth

CF39 9PP

Dydd Mercher 9 Tachwedd

3 – 7pm

Eglwys Sant Ioan

Stryd y Graig, Y Graig, Pontypridd

CF37 1NF

Dydd Sadwrn 12 Tachwedd

10am – 2pm

Canolfan Gymunedol Tonyrefail

Stryd Prichard, Tonyrefail,

CF39 8PA 

 

 

Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol

Gan y bydd y fferm wynt arfaethedig yn cynhyrchu mwy na 10MW o drydan fe’i diffinnir yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC/DNS). Mae hyn yn golygu y bydd y cais cynllunio yn cael ei gyflwyno i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) ac yn cael ei ystyried gan Arolygwr, a’r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru.

Er mai Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu ar y cais am fferm wynt yn y pen draw, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a’r cymunedau lleol yn ymgyngoreion allweddol, ac rydym yn awyddus i glywed eich barn am y cynigion.

 

Am Pennant Walters

Mae’r cynigion yn cael eu datblygu gan Pennant Walters, is-gwmni i Walters Group; cwmni lleol wedi’i leoli yn Hirwaun ac sy’n gweithredu’n genedlaethol. Mae Pennant Walters wedi datblygu, adeiladu a bellach mae’n gweithredu chwe fferm wynt a datblygiad solar yn ne Cymru (ar dir sy’n nodweddiadol iawn o faes glo de Cymru gyda nodweddion mwyngloddio arwynebol a thanddaearol), gan gynhyrchu cyfanswm o 127MW, gan ei wneud y cwmni ynni adnewyddadwy mwyaf i’w greu yng Nghymru.

Mae Pennant Walters wedi ymrwymo i hysbysu, ymgysylltu ac ymgynghori trwy’r broses ddylunio a chynllunio, er mwyn sicrhau bod cymunedau a rhanddeiliaid lleol yn cael cyfle i gyfrannu eu barn a helpu i lunio’r cynigion.

 

Cronfa budd cymunedol

Mae’r cymunedau y mae ein ffermydd gwynt yn gweithredu ynddynt yn bwysig i ni. Rydym eisoes yn gweithredu Cronfa Gymunedol ar gyfer pob un o’n ffermydd gwynt gweithredol, sy’n buddsoddi arian yn y cymunedau lleol.

Yn seiliedig ar 30MW o drydan a gynhyrchir, gallai’r gronfa ar gyfer fferm wynt Mynydd y Glyn gynhyrchu £150,000 y flwyddyn i gymunedau lleol, a fyddai’n cyfateb i £4.5m dros oes 30 mlynedd y prosiect.

Rydym yn ystyried sawl ffordd o weinyddu’r Gronfa, a fyddai ar gael pan fydd y fferm wynt yn weithredol, ac yn parhau i groesawu barn ar hyn wrth i ni ddatblygu cynlluniau ar gyfer y Gronfa.

 

Cefnogaeth polisi

Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd a chyhoeddodd ei dogfen Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol, a fabwysiadwyd ar ddechrau 2021. Mae safle Mynydd y Glyn gerllaw PAA 9, Ardal Gyn-Asesedig a nodwyd ar gyfer darparu ffermydd gwynt.

Mae PAA 9 yn cynnwys ardaloedd lle bydd prosiectau gwynt ar y tir yn anymarferol ac yn anhyfyw (yn enwedig y cymoedd lle mae diffyg adnoddau gwynt ac agosrwydd at y boblogaeth yn ffactor).Man cychwyn yw bwriad y PAA ac felly, cyflawnir unrhyw asesiad o ddichonoldeb yng nghyd-destun Polisi 17 a 18 Cymru’r Dyfodol, fel y’i llywir gan ystyriaeth fanylach o gyfyngiadau, gan gynnwys cyfyngiadau nad ydynt wedi’u hystyried ar gyfer y PAA.

Nid yw ffin yr Ardal Gyn-Asesedig yn ystyried canolfannau poblogaeth lleol (Tonyrefail, Trebanog a ffermydd) a materion agosrwydd posibl megis sŵn, gweledol a chysgodion symudol.  Felly, er mwyn osgoi effeithiau, daethom i’r casgliad y byddai angen i’r safle ymestyn ymhellach i’r gogledd na ffin yr Ardal Gyn-Asesedig i ardal o dir uwch a lle mae potensial ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt yn well.

Nod CBSRhCT, erbyn 2030, yw bod yn Gyngor Carbon Niwtral ac y bydd y Fwrdeistref Sirol mor agos â phosibl at Garbon Niwtral erbyn hynny. Mae CBSRhCT yn gweithio tuag at y nod hwn trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys prynu 100% o gyflenwad trydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy, trosi goleuadau stryd i LED neu gyfwerth, gosod araeau paneli solar ar draws ysgolion ac adeiladau corfforaethol a gosod celloedd tanwydd hydrogen mewn adeiladau cyhoeddus.

 

Tyrbinau gwynt enghreifftiol