Cynhaliwyd yr ymgynghoriad statudol rhwng 25 Hydref a 9 Rhagfyr 2022 ac mae bellach wedi cau.
Rhoddodd yr ymgynghoriad statudol gyfle i bobl archwilio’r cynlluniau a rhoi sylwadau / ymatebion i’w hystyried gan Pennant Walters a thîm y prosiect cyn cwblhau’r cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) i’w gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i’w ystyried cyn i Weinidogion Cymru benderfynu arno.
Roedd ein hymgynghoriad yn cynnwys 3 arddangosfa gyhoeddus lle gallai pobl ddarganfod mwy a thrafod y cynigion gydag aelodau o dîm y prosiect ac i weld y ffotogyfosodiadau.
Arddangosfeydd cyhoeddus 2022 | |
Dydd Mawrth 8 Tachwedd 3 – 7pm |
Y Ffatri Stryd Jenkin, Porth CF39 9PP
|
Dydd Mercher 9 Tachwedd
3 – 7pm |
Eglwys Sant Ioan
Stryd y Graig, Y Graig, Pontypridd CF37 1NF
|
Dydd Sadwrn 12 Tachwedd
10am – 2pm |
Canolfan Gymunedol Tonyrefail
Stryd Prichard, Tonyrefail, CF39 8PA |
Mae gennym hefyd arddangosfa rithwir , gyda’r opsiwn o wrando ar y testun wrth edrych ar y byrddau.
Fel arall, mae’r byrddau arddangos hefyd ar gael i’w gweld ar ffurf ffeiliau PDF y gellir eu lawrlwytho ac y gellir eu gwneud yn fwy neu’n llai yn ôl dewis personol.
Gallwch hefyd weld y ffotogyfosodiadau sy’n dangos sut olwg fyddai ar y fferm wynt o wahanol olygfannau yma
Gellir gweld map sy’n dangos o ble y cymerwyd y golygfannau yma
Diogelu Data
Bydd data personol a gyflwynir i ni trwy’r ymgynghoriad yn cael ei storio o dan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol ac ni fyddant yn cael eu rhannu â thrydydd parti y tu allan i Grasshopper Communications Limited neu Pennant Walters. Gallwch ofyn i’ch manylion gael eu tynnu ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion ar y dudalen cysylltu â ni.