Mae ein cynigion ar gyfer fferm wynt Mynydd y Glyn yn cynnwys:
- hyd at saith tyrbin gwynt â llafnau sydd ag uchder llafn o hyd at 155m;
- adeiladau is-orsaf a thrawsnewidydd
- lleoedd caeëdig contractwyr dros dro;
- cysylltiad grid;
- padiau craen a cheblau
- mynedfa a chyffordd newydd oddi ar y briffordd; a
- gwelliannau i lwybrau mynediad presennol.
Rhagwelir y bydd angen cais ar wahân gan yr Awdurdod Lleol ar gyfer symud dodrefn priffyrdd dros dro i ganiatáu cludo tyrbinau i’r safle.
Dylanwadwyd ar waith iteru’r dyluniad ar swm helaeth o waith asesu ac arolygu ynghyd â modelu golygfeydd posibl o dderbynyddion sensitif lleol i leihau effeithiau posibl.
Mae tîm y prosiect yn hyderus y gall y safle gynnwys saith tyrbin gwynt, gan gynhyrchu hyd at 30 MW o drydan, sy’n cyfateb i ddarparu digon o bŵer i ddiwallu anghenion trydan blynyddol tua 15,376 o gartrefi.
Mae’r fferm wynt wedi’i dylunio ag oes weithredol o 30 mlynedd, yn allforio ynni adnewyddadwy i’r Grid Cenedlaethol.
Mae Pennant Walters wedi derbyn cynnig grid gan Western Power Distribution (WPD) ar gyfer cysylltiad 33kV yn Upper Boat. Er y bydd y llinell uwchben yn cael ei hasesu a’i chaniatâd yn rhan o’r cais DAC, bydd y rhan dan ddaear yn ffurfio rhan o gais ar wahân gan WPD.